SL(5)207 - Rheoliadau Pysgod Môr (Safonau Marchnata) (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi gorfodi, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, safonau marchnata cyffredin yr UE ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a geir yn—

 

-          Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol; a

 

-          Rheoliad (UE) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodau gorfodaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i benodi swyddogion awdurdodedig at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â safonau marchnata cyffredin yr UE ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd (rheoliad 4).

 

Rhoddir pwerau mynediad, arolygu ac atafael i swyddogion awdurdodedig at ddibenion ymchwilio ac archwilio mangreoedd a chynhyrchion perthnasol i nodi achosion o dorri gofynion perthnasol yr UE (rheoliadau 5 a 7). Rhoddir pŵer i swyddogion awdurdodedig hefyd gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio am dorri gofynion perthnasol yr UE (rheoliad 8).

 

Mae mynd yn groes i safonau marchnata cyffredin yr UE yn drosedd (rheoliad 12(1)). Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, o fewn yr amser penodedig, hefyd yn drosedd (rheoliad 12(2)).

 

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer apeliadau yn erbyn hysbysiadau cydymffurfio ac unrhyw achos o wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau (rheoliadau 10 ac 11).

Y weithdrefn

Penderfyniad negyddol, cyfansawdd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - mae angen eglurhad pellach ar ystyr yr offeryn.

Mae Rheoliad 5 yn nodi pŵer i fynd i mewn i fangre. Mae Rheoliad 5(5) yn dweud bod yn rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi'i dilysu'n briodol sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw.

Nid yw'n glir inni pwy sy'n gallu gwneud cais y mae rheoliad 5(5) yn gymwys iddo. (Efallai y bydd llawer o bobl yn bresennol yn y fangre pan fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd.) Rhaid iddo fod yn gymwys pan fydd meddiannydd y fangre yn gwneud cais, ond i bwy arall y mae'n berthnasol? A yw'n berthnasol i unrhyw aelod o deulu'r meddiannydd? A yw'n berthnasol i berson a gontractiwyd i gynnal gwasanaethau glanhau yn y fangre? A yw'n berthnasol i gyfranddaliwr cwmni sy'n berchen ar y fangre? A yw'n berthnasol i rywun sy'n digwydd mynd heibio?

 

 

2. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy'n golygu bod y Rheoliadau hyn: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU.

Roedd Gweinidogion Cymru o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn dweud y dylai swyddogion gorfodi sy'n arfer pwerau gorfodi o dan y Rheoliadau roi sylw i Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Fodd bynnag, y sefyllfa gywir yw bod yn rhaid i swyddogion gorfodi ystyried y codau ymarfer statudol a wnaed o dan Ddeddf 1984.

Er gwaethaf mynegi pryderon ynghylch defnyddio Codau Ymarfer PACE ar sawl achlysur, nodwn fod cyfeiriadau anghywir at ddefnyddio Codau PACE yn gyffredin o hyd.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae Rheoliad 6 yn nodi'r broses ar gyfer gwneud cais am warant i fynd i mewn i fangre. Mae rheoliad 6(4) yn dweud bod gwarant i fynd i mewn i fangre (sy'n gallu cynnwys cartref person) yn ddilys am dri mis. Rydym yn cwestiynu a yw'n gymesur cael gwarantau sy'n ddilys am gyfnod cyffredin o dri mis, yn arbennig lle, er enghraifft, efallai y bydd yr holl achosion gofynnol o fynd i mewn i'r fangre wedi digwydd o fewn diwrnod neu ddau.

Rydym yn derbyn y gall amgylchiadau newydd ddod i'r amlwg y gallai fod angen ail-fynediad ar eu cyfer, ond yn yr achos hwnnw efallai y bydd yn fwy cymesur gwneud cais am warant newydd, yn enwedig pan fydd y warant yn ymwneud â mynd i mewn i gartref person.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (y Bil), felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod ymadael. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

O ran Rheoliadau'r UE sy'n cael eu gorfodi gan y Rheoliadau hyn, mae Rheoliadau'r UE yn cael eu hystyried yn 'ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir' o dan y Bil. Fel y'i drafftiwyd, nid yw'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (na Chynulliad Cenedlaethol Cymru) addasu unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir. Rhoddir pŵer i addasu holl ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir i Weinidogion y DU; mae hyn yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir mewn meysydd datganoledig.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliannau i'r Bil yn ystod y cyfnod adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi y disgwylir iddynt godi'r cyfyngiadau hyn i ryw raddau.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb y llywodraeth i'r pwyntiau craffu technegol a rhinweddau.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

4 Ebrill 2018